Monmouthshire Honey
Mae fy ngwraig a minnau wedi bod yn cadw gwenyn ers 15 mlynedd.
Mae fy ngwraig a minnau wedi bod yn cadw gwenyn ers 15 mlynedd. Erbyn hyn, maen fater teuluol ac mae ein merched hefyd yn helpu ac yn dechrau dysgur grefft. Mae ein cychod gwenyn wedi eu lleoli ar hyd Dyffryn Wysg, mewn gwenynfeydd parhaol.
Rydym yn casglur holl fêl yr ydym yn ei werthu or cychod gwenyn hyn. Mae rhai or blodau y maer gwenyn hyn yn ymweld â nhw yn cynnwys dant y llew, coed ffrwythau, rêp hadau olew, mwyar duon, meillion, yr helyglys hardd ar ffromlys chwarrennog, i enwi ond ychydig. Heb anghofior blodau sydd iw gweld mewn gerddi lleol. Gwir flas ar Sir Fynwy.
Fe fydd blas y mêl, ai arogl, yn amrywio o dymor i dymor, gan ddibynnu ar y porfwyd sydd ar gael yn lleol.
Yn ddiweddar, mae gwenyn wedi bod yn cael amser anodd, ac un peth y gall pobl ei wneud i helpu yw cefnogi ceidwaid gwenyn lleol, trwy brynu mêl lleol. Mae unrhyw farchnad cynnyrch neu farchnad ffermwyr yn lle da i gael hyd i fêl lleol. Meddyliwch am y milltiroedd bwyd y buasech chin eu harbed hefyd. Er enghraifft, pan fyddwch yn prynu mêl o Seland Newydd mae wedi teithio tua 11,000 o filltiroedd. Heb os, lleol sydd orau!
0 click throughs, 174 views since start of 2012
Eat in Abergavenny,
Opening Times
Contact Details
-
Monmouthshire HoneyOwner/Manager: David and Jane Johns8 Penybont, Abergavenny Monmouthshire NP7 9RA UK.phone: 01873 832232 fax:Our Website
News & Special Offers
