Brecon Beacons Tourism

The Brecon Beacons National Park - Croeso i'r Bannau Brycheiniog!

Usk River

Mae `Usk River' yn fenter newydd i Rhian Short, sydd â'i bryd ers tro mewn bwyd gwledig o ffynonellau lleol.

Mae ‘Usk River’ yn fenter newydd i Rhian Short, sydd â’i bryd ers tro mewn bwyd gwledig o ffynonellau lleol. Wedi treulio flynyddoedd lawer yn ymchwilio i amrediad creadigol o ryseitiau a chymhwyso hyn i grefft draddodiadol iawn, mae hi erbyn hyn wedi lansio ei hamrywiaeth ei hun o siytnis a chyffeithiau sawrus o ansawdd. Gyda’r ffocws ar ddefnyddio cynhwysion tymhorol o ffynonellau lleol, mae’r ryseitiau yn cael eu creu mewn batsienni yn y ffordd draddodiadol.

Mae’r dewis craidd yn cynnwys amrywiaeth o siytnis, gwahanol fathau o enllyn, piclau a jamiau sawrus. Daw’r cynhwysion o ffynonellau lleol lle’n bosib ac mae’r ryseitiau sy’n llawn cynhwysion, yn rhydd o gynhwysion i greu ‘swmp’, cynhwysion parod ac ychwanegion artiffisial. Dewisir y cynhwysion hynny sydd ddim ar gael yn lleol gyda gofal, ac yn Ôl eu hansawdd a’u tarddiad, a roddir ystyriaeth hefyd i daith bwyd wrth fynd ati i ddewis cyflenwyr. Defnyddir finegr gwin, siwgr a sbeisiau uchel eu hansawdd drwy gydol y broses, a pharatoir pob rysáit â llaw mewn cegin fasnachol fechan ym Mrynbuga.

Ymhlith y ffefrynnau sy’n dechrau ymddangos mae ‘Jam Chili Patagonia’, ‘Siytni Chilli Afal Poeth’, ‘Moron, Oren a Choriander’, a ‘Tango Tomato a Thamarind’. Bydd amrywiaeth tymhorol sef Siytni Llugaeron, Afal a Winwns Coch, a Siytni ‘Pear-Tree’ hefyd ar gael yn fuan, yn ogystal â chyfresi hyfryd ar gyfer y Nadolig.

Mae cyffeithion ‘Usk River’ ar gael ym Marchnadoedd Amaethwyr Brynbuga, Talgarth a Llangynidr (gweler website link) ac yn nifer o Ffeiriau Nadolig yn ystod y tymor i ddod. Gallwch ymweld â ‘Chutney Heaven’ ar Facebook am y manylion diweddaraf.

0 click throughs, 211 views since start of 2012

Eat Other in Abergavenny,

Brecon Beacons Tourism Powered by Your Tourism Community Ltd