Townsend Designs
Rydym yn dylunio ac yn cynhyrchu planwyr gardd pwrpasol ynghyd â dodrefn awyr agored â dulliau, technegau a sgiliau gwaith saer traddodiadol sy'n prysur ddiflannu.
Rydym yn dylunio ac yn cynhyrchu planwyr gardd pwrpasol ynghyd â dodrefn awyr agored â dulliau, technegau a sgiliau gwaith saer traddodiadol syn prysur ddiflannu. Sgiliau sydd wedi gwasanaethu dyn yn dda dros gannoedd o flynyddoedd, ac syn haeddu parhau yn y dyfodol.
Rydym yn ymfalchïo mewn crefftwaith o safon, a sicrheir hynny yn ein gweithdy sydd wedii leoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog maer lle hwn hefyd yn ysbrydoli ein dyluniadau.
Weithiau ceir ysbrydoliaeth or mannau y treuliodd y pren ei fywyd, a defnyddir dylanwadau pensaernïol adeiladau hanesyddol lleol yn ein gwaith dylunio. Rydym yn credun daer y gall defnyddio deunyddiau lleol sicrhau gostyngiad sylweddol yn y tanwydd a ddefnyddir i gludo deunyddiau ar effaith ar adnoddau coed y byd sydd o dan fygythiad, ac ar yr un pryd, gellir mynd ati i greu pethau hardd a defnyddiol fydd yn para am flynyddoedd. Cydnabuwyd ein rhinweddau gwyrdd âr wobr fusnes a gawsom yn ddiweddar.
1 click throughs, 1276 views since 2011
Shop in Abergavenny Monmouthshire
Opening Times
Contact Details
-
Townsend DesignsOwner/Manager: Helen PowellBeili Glas Cottage, Llanellen Abergavenny Monmouthshire NP7 9HS United Kingdomphone: 01873 857008 / 07928 790889 fax:Our Website
News & Special Offers
